Ddiwedd Ionawr, cytunodd Panel yr Heddlu a Throseddu i lefel praesept arfaethedig y Comisiynydd (elfen yr heddlu o’r dreth gyngor) ar gyfer 2013/14. Pennwyd y swm mewn ymgynghoriad â’r Prif Gwnstabl. Gosod y praesept oedd un o brif benderfyniadau cyntaf y Comisiynydd. Mae ymgynghori â’r cyhoedd wedi hysbysu lefel terfynol y praesept, sef cynnydd o 3.9%, neu 14.9 ceiniog yr wythnos yn ychwanegol ar gyfer eiddo band D yn Nyfed-Powys. Mae’r lefel praesept yn cyfrif am 44% o’r gyllideb gyffredinol y bydd y Comisiynydd yn derbyn, a fydd yn cael ei chwblhau cyn 31 Mawrth 2013. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.